
Chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol i’w wneud yn ystod mis Awst? Dere draw i’r Gweithfeydd, Glyn Ebwy, cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, o 31 Gorffennaf – 7 Awst.
Yn gerddoriaeth, llenyddiaeth, diwylliant, dawns, theatr a llawer mwy, mae’r Eisteddfod yn ŵyl fywiog ac ifanc ei hysbryd gydag awyrgylch ffantastic – a rhywbeth i bawb. Gyda thros 160,000 o ymwelwyr yn galw draw yn ystod yr wythnos, mae digonedd i’w wneud, gyda llwyfannau perfformio awyr agored, theatr, perfformiadau stryd, dros 600 o weithgareddau ar gyfer plant a theuluoedd a llawer mwy.
Ac os oes gen ti unrhyw egni ar ôl ar ddiwedd y dydd, mae’r bywyd nos yn wych, gyda Maes B – gŵyl gerddoriaeth Gymraeg fwyaf Cymru – yn digwydd bob noson yn agos at y Maes. Fe fyddi di’n siwr o sylwi ar y pafiliwn mawr pinc yng nghanol y Maes a thros 300 o stondinau o bob math – profiad siopa gwych – a dim ond un gair sydd ‘na i ddisgrifio’r awyrgylch – ‘Eisteddfod’!
Moyn gwybod mwy? Cer i'n tudalen ar facebook - www.facebook.com/eisteddfod - ac fe welwn ni di yn y ‘Steddfod!
